Mae'r rhan fwyaf ohonom yn cymryd dŵr yn ganiataol...
Mae gan rai pobl, fodd bynnag, ansawdd dŵr gwael, gan gynnwys llygriad biolegol, gwasgedd dŵr isel a chyflenwadall ddarfod yn ystod hafau sych.
Gall y rhai sy'n defnyddio llawer o ddŵr, megis ffermwyr, cyrsiau golff, canolfannau garddio a thyddynod, yn amlwario rhai miloedd o bunnoedd mewn blwyddyn.
Gall Dragon Drilling gyflenwi twll turio dŵr er mwyn datrys eich holl broblemau cyflenwi dŵr a chael gwared ar daliadau dŵr. Yn achos rhai defnyddwyr, gall costau gosod y twll turio gael eu had-dalu'n llawn o fewn blwyddyn.
Manteision Twll Turio Dŵr
Gyda'ch twll turio dŵr eich hun, byddwch yn hunan gynhaliol ac yn gwbl annibynnol ar y prif gyflenwada dim rhagor o filiau dŵr -cewch fwynhau dŵr naturiol drwy'r tap, heb fod cemegolion wedi eu hychwanegu ato - daw'r rhan fwyaf o'r mathau o ddŵr potel o dyllau turio.
Nid oes angen trwydded er mwyn tynnu hyd at 20,000 o litrau'r dydd (4,400 galwyn).
Pecyn Twll Turio Dŵr Dragon Drilling
Mae Dragon Drilling Ltd yn darparu pecyn cyflenwi cyflawn sy'n cynnwys pympiau, systemau rheoli a thrin dŵr os oes angen, ar gyfer defnyddwyr preifat a sefydliadau masnachol megis ffermydd, clybiau golff a chanolfannau garddio.
Gyda mwy na 30 mlynedd o brofiad yn y diwydiant dŵr a'r amgylchedd, mae Dragon Drilling Ltd yn darparu ar gyfer anghenion pob cleient unigol.