Mae Dragon Drilling yn darparu asesiad ansawdd dŵr er mwyn chwilio am lygriad biolegol a chemegol. Caiff samplau eu dadansoddi mewn labordy'n perthyn i Gwmni Dŵr Cenedlaethol sy'n cynnwys yr offer dadansoddi diweddaraf a bydd gwyddonwyr sydd wedi eu hyfforddi'n llawn yn gweithio yno. Mae gan y labordy achrediad NAMAS ar gyfer yr holl brofion dŵr.
Pe bai'r sampl dŵr yn dynodi fod angen triniaeth, yna gall Dragon Drilling gynghori ar y weithdrefn drin dŵr briodol a chyflenwi a gosod yr offer. Mae'r systemau trin arferol yn golygu ffiltro ac yna sterileiddio gan ddefnyddio pelydrau uwch fioled. Mae'r systemau trin yn gywasgedig a does dim angen llawer o waith cynnal a chadw arnynt. Gyda system drin dŵr gan Dragon Drilling, gallwch fod yn hyderus y bydd eich dŵr yn cyrraedd y safon sy'n ofynnol gan Reoliadau Cyflenwad Dŵr (Ansawdd Dŵr) 2001.