Polisi Preifatrwydd
Mae eich manylion personol yn ddiogel gyda Dragon Drilling Ltd. Rydym wedi ymrwymo’n llwyr i warchod eich preifatrwydd.
Cyfeiriadau e-bost
Nid ydym yn cyfnewid, gwerthu, rhentu nac yn rhoi eich cyfeiriad e-bost nac unrhyw fanylion eraill i gwmniau eraill.
Ffurflenni cysylltu
Rydym yn cadw manylion ar ein cyfrifiaduron ynglyn â’r wybodaeth a ddarperir gennych ar ein ffurflenni cyswllt / drwy gyfrwng e-bost. Gwnawn hyn er mwyn ateb eich ymholiad a dim ond er mwyn eich helpu chi.
Os nad ydych am i ni gadw unrhyw fanylion amdanoch ar ffeil, rhowch wybod i ni.
Cwcis
Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis er mwyn cofio manylion megis nifer yr ymweliadau. Ni chesglir ac ni storir unrhyw wybodaeth bersonol y gellir ei hadnabod.
Rydym yn monitro traffig i’r wefan yn unig ac ni chaiff eich manylion personol megis eich cyfeiriad IP neu eich enw a’ch cyfeiriad ei holrhain na’u storio.
