
Drilio Safle Tirlenwi
- Ffynhonnau Tynnu Nwyon Safleoedd Tirlenwi
- Ffynhonnau Cywasgu
- Monitro Tyllau Turio
- Tyllau Turio Trwytholchion
Dychwelyd at y Gwasanaethau i Gyd
Mae deddfwriaeth yn ei gwneud hi'n ofynnol bod modd rheoli a monitro lefelau trwytholchion mewn safleoedd tirlenwi. Yn anffodus, oherwydd setliad gwahaniaethol, a dyddodiad silt, mae sawl twll turio trwytholchion yn methu neu'n dod yn aneffeithiol.
Mae gosod twll turio arall yn golygu drilio hyd at yr haenu draenio ar waelod y safle tirlenwi. Mae twll turio nad yw'n rhyng-gipio'r blanced ddraenio yn aneffeithiol. Gan mai dim ond 300mm o drwch yw'r blanced draenio, mae'r angen i ryng-gipio'r blanced draenio, heb ddifrodi'r peirianwaith cyfyngiant, yn rhoi cryn dipyn o bwysau ar y driliwr.
Yn ogystal â hynny, mae'n debygol y bydd y gwastraff ar waelod y safle tirlenwi yn ddirlawn gyda thrwytholchion a bydd dulliau drilio arferol, gan ddefnyddio ebill casgen, yn methu gan fod y deilliannau'n cael eu colli o'r gasgen wrth ei thynnu nôl.
Wrth wynebu'r her o ryng-gipio'r blanced draenio, heb beryglu leiner, ynghyd â'r gofynion i alldynnu gwastraff dirlawn, mae ôl-ddrilio trwytholchion yn weithred llawn sialens.
Gwelodd Dragon Drilling y galw am ôl-ddrilio ffynhonnau trwytholchion ac maent wedi datblygu offer sydd wedi bod yn llwyddiannus 100% wrth gyrraedd dyfnderoedd tyllau turio heb ddifrodi leiner y safle tirlenwi. Mae pob ôl-ddrilio trwytholchion ers 2005 wedi bod yn llwyddiannus.
Yn 2005, cychwynnwyd gwaith datblygu ar esgid ddrilio wedi ei chynllunio'n arbennig ar gyfer drilio drwy wastraff. Perffeithiwyd y cynllun yn 2006 a rhoddwyd patent GB 2426988 ar yr 20fed o Fai 2007. Drwy ddefnyddio esgid ddrilio arbenigol, gall Dragon Drilling ddrilio'n ddyfnach ac yn fwy effeithiol nag unrhyw weithredwyr eraill.
Mae defnyddio esgid ddrilio arbenigol, ynghyd ag offeryniaeth ar y peiriant drilio a Blaen Ddrilwyr hynod grefftus, yn ein galluogi i adnabod y blanced draenio cyn gynted ag y bydd yr esgid ddrilio'n dod i gysylltiad â hi. Mae defnyddio'r offer yma a'r technegau drilio wedi galluogi Dragon Drilling i gadw record sy'n destun eiddigedd, gan nad ydynt erioed wedi treiddio trwy'r peirianwaith cyfyngiant ar safle tirlenwi.
Yn 2006, datblygwyd techneg ddrilio a oedd yn golygu y gellid cael gwared â gwastraff dirlawn o dwll turio ar ôl i nodweddion ffisegol y gwastraff newid drwy ddefnyddio asiant cyflyru. Rhoddwyd patent GB 2431177 ar y 13eg Awst 2008 ar gyfer cyflyru gwastraff dirlawn o dwll turio.
Mae'r gallu i ryng-gipio'r blanced draenio, ynghyd â'r dechneg i gael gwared â gwastraff dirlawn o ddyfnderoedd hyd at 70m, wedi galluogi Dragon Drilling i osod tyllau turio trwytholchion ar safleoedd lle mae dulliau drilio arferol medi methu dro ar ôl tro. Daw'r llwyddiant yn sgil dyfeisgarwch, datblygu, hyfforddi a phrofiad.
Gellir gosod tyllau turio trwytholchion mewn câs o MDPE gyda diamedr allanol o 315mm, 250mm neu 225mm. Gan y bydd dur Ø406mm wedi ei ddefnyddio fel arfer er mwyn cyrraedd dyfnder, mae'n bosibl tynnu'r câs dur Ø406mm yn ei ôl gan ddefnyddio 1 i 6m er mwyn cael amddiffyniad i'r câs MDPE rhag dyddodiad gwahaniaethol.
Mae'n well gan rai gweithredwyr gael gwared ar y câs dur Ø406mm ac mae rigiau Dragon Drilling yn ddigon pwerus er mwyn tynnu câs dur Ø406mm sydd wedi ei osod hyd at ddyfnder o 65m.
Dewis arall yn lle defnyddio câs MDPE yw gosod câs dur Ø244mm o fewn y câs dur Ø406mm, sy'n cael ei dynnu oddi yno unwaith y byd y twll turio wedi ei gwblhau. Mae gan y dur Ø244mm y cryfder i wrthsefyll setliad gwahaniaethol ac mae hefyd yn galluogi arbed arian fel y bydd y dur Ø406mm yn cael ei adfer. Yn fwy na hynny, gellir defnyddio'r opsiwn dur Ø244mm ar safleoedd lle byddai rhai mannau penodol yn dinistrio câs MDPE.



Dychwelyd at y Gwasanaethau i Gyd
Hawlfraint Dragon Drilling Ltd cynllnwyr gwefan doodleIT