
Lansio Gwefan Newydd
Bydd ein gwefan newydd yn cael ei diweddaru'n rheolaidd gyda'r newyddion diweddaraf, astudiaethau achos a gwybodaeth am dyllau turio dŵr neu rai geothermol.
Geoff Ellison & Frankie Hay
Darllen mwy...
Rhif Cais Patent y DU 0523467.9
Dyddiad y Ceiswyd amdano18/11/2005
Rhif y Patent 2426988
Rhoddwyd20fed Mai 2007
Disgrifiad Byr o'r Broblem
Wrth ddrilio drwy wastraff mae'n hanfodol fod yr arf drilio'n gallu torri trwy amrediad eang o ddeunyddiau am ddyfnder o dros 60m. Mae'r eitemau all beri problemau i waith drilio yn cynnwys concrid sydd wedi ei atgyfnerthu a gwrthrychau metel (gan gynnwys blociau injian). Gall methu â chyrraedd y dyfnder drilio angenrheidiol arwain at roi'r gorau i'r twll turio neu osod strwythur ail ei le.
Ar safleoedd ble mae drilio yn digwydd er mwyn cyfnewid simeiau trwytholchion, gosodwyd pad targed o goncrid yn aml yn ystod y gwaith o baratoi'r gell. Mae'n hanfodol fody gwaithdrilio'n taro'r pad targed er mwyn sicrhau rheoli trwytholchion yn effeithiol. Gall rhoi'r gorau i waith drilio oherwydd methiant i gyrraedd y pad drilio arwain at gynnal gwaith drilio heb y pad targed sy'n gofyn am gryn ofal yn ystod y drilio rhag peryglu'r peirianwaith cynnal.
Disgrifiad o'r Patent
Mae'r patent yn ymwneud â newidiadau i'r esgid ddrilio er mwyn gwella'r gallu i dorri a gwella parhad yr esgid.
Mae'r dannedd ar yr esgid ddrilio'n finiog mewn trefniant bob yn ail ar ochr fewnol ac ochr allanol yr esgid. Mae pob dant, felly, yn dilyn yr un blaenorol yn rhannol ond mae'n dilyn yn union ar ôl y dant sydd o flaen yr un blaenorol. Mae'r dannedd yn llunio toriad llydan drwy'r gwastraff ac mae coler amgylchynnol yr esgid yn gweithredu fel lledwr er mwyn lleihau'r dynfa ar y gasgen wrth iddi droi. Mae gan y ddyfais felly'rmanteision o allu torri drwy ddeunyddiau fyddai'nanodd eu torri gydag esgid arferol. Mae hyn yn arwain at ddefnyddio llai o danwydd, lleihau'r torc ar flaen y dril a ffynhonnau dyfnach i'w tyllu. Mae rhoi'r gorau i ffynhonnau yn cael ei leihau os nad ei ddileu'n llwyr.
Rhif Cais Patent y DU0606117.0
Dyddiad y Ceiswyd Amdano 29/03/2006
Rhif Patent 2431177
Rhoddwyd 13eg Awst 2008
Disgrifiad Byr o'r Broblem
Wrth ddrilio drwy wastraff gorlawn gwelir yn aml fod adferiad deunyddiau'n wael ac ni ellir dal trwytholchion o fewn y gasgen wrth dynnu'n ôl. Yn y dyddiau a fu, mae'r gwastraff/trwytholchion wedi eu symud gan ddefnyddio bêlar neu caiff y deunydd ei wthio allan o dan wasgedd gan system aer yn codi. Mae defnyddio system sy'n cyflwyno aer i safle tirlenwi'nrhoi ocsigen mewn amgylchedd sy'n llawn methan ac mae'n berygl annerbyniol o danReoliadau Sylweddau Peryglus ac Amgylcheddau Ffrwydrol 2002 (DSEAR).
Bydd methu â chael gwared â'r gwastraff/trwytholchion yn atal gosodcâs boddhaol i'r ffynnon ac ni fydd y twll turio'n gallu cael ei ddefnyddio ar gyfer rheoli trwytholion yn effeithiol.
Disgrifiad o'r Patent
Defnyddir arferion drilio confensiynol hyd nes na fydd adferiad boddhaol yn cael ei gyflawni h.y. mae'r gwastraff a'r trwytholchion yn ffurfio deunydd homogenaidd sy'n cael ei golli o'r gasgen wrth iddo gael ei symud a'i ddwyn allani'r wyneb.
Gosodir câs dur yn y twll turio ac mae'nymestyn o tua 1m uwchlaw lefel yddaear i'r gwaelod lle mae'r drilio wedi peidio. Mae'r câs dur wedi ei arfogiag esgid aberthol a choler ymestynnol fel y disgrifir ym mhatent y DU Rhif 2426988, uchod.
Ychwanegir asiant beindio (benoneit, gwydr powdrog, polymer gweithgar, yn unigol neu mewn cyfuniad, bydd y math yn dibynnu ar nodweddion y gwastraff) at waelod y câs dur. Defnyddir ebill Hedfan wedyn er mwyn cymysgu'r asiant beindio gyda'r trwytholchion/gwastraff nes y cynhyrchir mas gwastraff ffyrnig, homogenaidd. Oherwydd nodweddion ffyrnig y deunydd, bydd y polymer/gwastraff yn glynnu at esgyll yr ebill Hedfan a bydd y gwastraff/polymer yn cael ei symud oddi yno pan dynnir yr ebill Hedfan yn ei ôl i'r wyneb.
Pan fydd y polymer wedi ei symud oddi yno, caiff y câs dur ei symud ymlaen i'r gwastraff/trwytholchion gyda'r esgid aberthol yn torri drwy'r gwastraff yn yr un modd â'r ebill casgen. yna, bydd y gwastraff/trwytholchion yn cael eu cyflyru gyda'r asiant beindio a'i symud oddi yno gyda'r ebill Hedfan. Ailadroddir y broses nes y cyrhaeddir y dyfnder sy'n ofynnol.
Rhif Cais Patent y DU0604249.3
Dyddiad y Ceiswyd amdano 03/03/2006
Rhif y Patent 2433215
Rhoddwyd15fedMehefin 2007
Disgrifiad Byr o'r Broblem
Wedi cwblhau gwaith drilio gosodir câs i'r ffynnon er mwyn hwyluso symudiad nwyon ac neu drwytholchion i'r twll turio. Yn y dyfnder, mae'r cylch rhwng câs y ffynnon a'r twll turio'n cael ei lenwi gyda cherrig neu raean. Ar yr wyneb mae angen sêl er mwyn atal arogleuon rhag dianc a hefyd rhag i ddŵr ac ocsigen fynd i mewn. Bentoneit yw'r deunydd a ddefnyddir er mwyn gwneud sêl yn effeithiol sy'n amrywio o 2m o ddyfnder i amryw o fetrau o ddyfnder. Mae'r bentoneit ar ffurf podwr anhydrus neu beletau. Fe'i ychwanegiri'r twll turio ac yna ei hydradu drwy ychwanegu dŵr. Nid yw'r broses hon yn ddargludol i safon ansawdd ar gyfer y sêl.
Disgrifiad o'r Patent
Ychwanegir dŵr at lestr cymysgu sy'n dal oddeutu 200 litr. Mae graddfa wedi ei graddoli ar y cymysgwr er mwyn sicrhau fod y swm cywir o ddŵr yn cael ei ychwanegu.
Yna ychwanegir swm penodol o bowdwr bentoneiti'r cymysgwr sydd â dwy rwyf yn troi er mwyn sicrhau cymysgedd homogenaidd. Caiff y rhwyfau eu gweithio o system heidrolig turiwr ac mae'r llestr cymysgu wedi ei gysylltu â braich 'quick hitch' y peiriant. Gan fod y bentoneit yn thicsotroffig caiff y gymysgedd ei hysgwyd yn gyson nes y bydd y bentoneit yn cael ei ychwanegu at gylch y câs a'r twll turio gan defnyddio pig tywallt. 
Rhif Cais Patent y DU 0524600.4 Date Applied for 14/09/2006
Disgrifiad Byr o'r Broblem
Yn ystod gwaith drilio bydd nwyon tirlenwi'n cael eu rhyddhau i ardal y rig drilio a'r gweithlu os yw'r nwy tirlenwi o dan wasgedd. Bydd cyfradd ei ryddhau'n amrywio ac yn dibynnu ar bwysedd y nwy o fewn y safle, pwysedd atmosfferig a phrun ai yw'r pwysedd atmosfferig yn codi neu'n esgyn. Yn ogystal â'r perygl o ffurfio amgylchedd allai fod yn ffrwydrol o gwmpas y rig, a ddylai fod yn destun asesiad risg o dan DSEAR, mae perygl hefyd i'r gweithwyr brofi nwyon gwenwynig, ymfflamychol neu rai allai eu mygu. Yn ogystal â DSEAR, mae angen asesiad risg o dan COSHH hefyd.
Disgrifiad o'r Patent
Gosodir system awyru egsost lleol (LEV) ar y rig er mwyn cael gwared o nwyon a ryddheir o'r twll turio a'u trosglwyddo i fan lle gallant gael eu rhyddhau'n ddiogel i'r atmosffer. Mae'r system LEV yn cynnwys maniffold hyblyg sy'n rhannol gylchu'r twll turio sy'n cael ei ddrilio. Mae gan y maniffold byrth i dderbyn y nwyon a ryddheir o'r twll turio a'u glanhau gydag aer amgylchynnol ar gymhareb o tua 20:1. Mae hyn yn sicrhau fod crynhoad y nwyon o fewn y system LEV yn llai na'r cyfyngiad ffrwydrol isaf ar gyfer methan.
Mae'r nwyon sydd wedi eu dal a'r aer amgylchynnol yn symud trwy drap cyddwyso cyn mynd i mewn i fwster nwy heidrolig ar ochr y rig neu uned LEV hunan gynhaliol wrth ymyl y rig. Ar ôl mynd trwy'r bwster nwy gellir lleihau'r crynhoad methan ymhellach drwy drefniant o falfiau sy'n mynd â'r nwyon drwy gymysgwr gwynt sy'n ychwanegu 200%yn ychwanego aer amgylchynnol at y gymysgedd o nwyon/ aer.
Wedyn, gellir rhyddhau'r nwyon drwy dwr gwynt sydd wedi ei leoli tua 3m uwchlaw'r ddaear y tu ôl i'r rig. Gellir ymgorffori ffiltro carbon ar y nwyon sy'n cael eu tynnu os oes angen rheoli'r arogl.
Rhif Cais Patent y DU 0608995.7
Dyddiad y Ceiswyd Amdano10/05/2006
Rhif Patent 2437961
Rhoddwyd25ainMehefin 2008
Disgrifiad Byr o'r Broblem
Roedd patent 4 yn ymdrin â safleoedd sydd â phwysedd nwy cadarnhaol allai arwain at ryddhau nwyon safleoedd tirlenwi yn ystod y gwaith drilio. Ar safleoedd lle mae nwy byw eisoes yn cael ei dynnu oddi yno, mae posibilrwydd y gall ocsigen gael ei dynnu i'r twll turio sy'n cael ei ddrilio. Mae cyflwyno ocsigen i ardal gyfyng, gyda ffynhonnell danwydd megis methan a ffynonnellau posiblallai gynau, o ganlyniad i ddigwyddiadau o wrthdaro gyda'r offer drilio yn gofyn am asesiad risg o dan DSEAR.
Disgrifiad o'r Patent
Er mwyn dileu'r risg, mae angen cael gwared o un o'r eitemau yn y 'triongl tân', yn enwedig y tanwydd, ffynhonnell gynau neu'r ocsigen. Gan ei bod yn amhosibl rhwystro methan rhag bod yn bresennol na defnyddio arfau drilio metalig, yr unig ateb yw dileu'r ocsigen.
Danfonir nwy anadweithiol, nitrogen fel arfer, o boteli storio ar y rig i'r gyrwr blaen troelli gwag. Oddi yno, mae'n symud drwy'r rodiau drilio gwag i'r ebill casgen. Er mwyn danfon y nwy anadweithiol i'r esgid ar yr ebill casgen, caiff y "ffenestr" ar yr ebill casgen ei selio dros dro gan ddefnyddio pats aberthol. Pan fydd yr ebill casgen o dan lefel y ddaear yn gyfan gwbl, bydd y pats aberthol yn gwisgo i ffwrdd a danfonir y nwy anadweithiol i'r twll turio drwy'r ffenestr. Mae danfon y nwy anadweithiol yn digwydd yn uwch na phwysedd atmosfferig gan sicrhau fod ocsigen wedi ei gau allan o'r twll turio.

Bydd ein gwefan newydd yn cael ei diweddaru'n rheolaidd gyda'r newyddion diweddaraf, astudiaethau achos a gwybodaeth am dyllau turio dŵr neu rai geothermol.
Geoff Ellison & Frankie Hay
Darllen mwy...
Hawlfraint Dragon Drilling Ltd cynllunwyr gwefan doodleIT